S3 - Safle Saff i Siarad
Pobl Ifanc Yn Arwain Y Ffordd I Helpu Gwella Iechyd Meddwl A Llesiant Pobl Ifanc Ceredigion
Yn dilyn ymgynghoriad, nododd yr YPMC fod y mwyafrif o bobl ifanc eisiau teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli, a bod pobl mewn grym sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, yn gwrando arnyn nhw.
Wedi’i ysgogi gan y galw hwn, bydd yr YPMC yn sefydlu Safe Space to Speak/ Safle Saff i Siarad (S3), grŵp cynrychioliadol ar gyfer pobl ifanc ar wahân i strwythurau pwer traddodiadol, sydd, o’r dechrau’n deg, yn cael ei arwain gan bobl ifanc. Nodir ei nodau cyffredinol yn eu Maniffesto, gyda ffocws ar ymgyrchu dros newid systemig er budd pobl ifanc.
Prif dasg S3 fydd ymgyrchu am wasanaethau gwell i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Mi fydd yn dechrau yng Ngheredigion, ond mae ei nodau yn llawer mwy pellgyrhaeddol. Mae S3 am greu model y gall siroedd a sefydliadau eraill ei ddilyn, yn enwedig o ran eu golygfa ddelfrydol o safleoedd saff.
Bywgraffiadau’r Aelodau
S3 Maniffesto PDF
Rhagolwg neu Lawrlwytho (PDF)
Mae S³ wedi creu maniffesto, y gallwch ei weld uchod. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu eu gwerthoedd a nodau eu hymgyrch. Datblygu mwy o safleoedd saff sefydlog yw eu nod cyntaf. Gan na fydd y cyllid ar gyfer Dyfodol Ni yn ymestyn i gwmpasu creu’r safloeoedd saff sefydlog hyn, fe fydd Sᶾ yn lobïo am gyllid ychwanegol dros y blynyddoedd nesaf. Bydd yn gweithio gyda Phartneriaid i lansio safloedd saff sefydlog ar draws y sir.
Bydd yr aelodau hefyd yn lobïo’r rhai sydd mewn grym i wrando ar farn ac anghenion pobl ifanc ynghylch y system drafnidiaeth. Mae Ceredigion yn sir wledig iawn, ac mae toriadau i wasanaethau yn rhoi pobl ifanc dan anfantais gan eu bod yn llai tebygol o allu gyrru (neu ddim yn gallu gyrru os ydyn nhw o dan 17 oed). Mae hyn yn chwalu ar ragolygon cyflogadwyedd, ond yn hollbwysig i nodau Dyfodol Ni, gall fod yn rhwystr i bobl ifanc gael mynediad at wasanaethau neu apwyntiadau. Mae mor syml â hynny: os yw’n anodd iawn cyrraedd eich apwyntiad, rydych yn anhebygol o fynd!
Eu nod yw bod yn anymddiheurol wrth siarad gwirionedd i rym er budd pobl ifanc, a grymuso pobl ifanc eraill i ddefnyddio eu lleisiau ar gyfer newid.
Os ydych chi’n angerddol am safiad ieuenctid Dyfodol Ni, a’r materion y mae’r prosiect yn awyddus i fynd i’r afael â nhw, bod gennych angerdd i wneud pethau’n well i bawb, ac yn poeni am hyrwyddo materion sy’n bwysig i bobl ifanc, yna cysylltwch â ni neu lawrlwythwch ein pecyn recriwtio.
s3@dyfodolni.co.uk