Ar ôl diwrnod lansio llwyddiannus yn Aberystwyth ar y 3ydd o Orffennaf, rydym nawr yn barod i fynd allan yn y gymuned.
Dyma ni’n mynd!
Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf byddwn yn Aberporth yng Nghanolfan Dyffryn o 12-6pm. Os ydych chi’n 13-25, dewch draw am goffi, sgwrs, neu i ymlacio.
Dyma’r amserlen ar gyfer y 6 wythnos gyntaf. Bob dydd Mawrth byddwn yn Felinfach, bob dydd Iau byddwn yn Aberystwyth, a bob dydd Sadwrn byddwn yn Aberporth.