Llyw A Byw Logo 4x2 - Dyfodol Ni

Cynllun Cyflwyno: Llyw a Byw

lBwriad Feelz on Wheelz / Llyw a Byw yw mynd i’r afael â thri mater allweddol a ddeilliodd o ymgynghoriad Dyfodol Ni: mynediad at wasanaethau, diffyg safleoedd saff i bobl ifanc yn y sir, a thrafnidiaeth.

Caffi ieunenctid symudol yw Feelz on Wheelz / Llyw a Byw lle gall pobl ifanc alw heibio i gael paned a chael mynediad at Weithwyr Cefnogi os maen nhw’n dymuno. Bydd bwyd a diod yn cael eu sybsideiddio, er hynny nid oes unrhyw rwymedigaeth ar bobl ifanc i wario unrhyw arian; nod hirdymor y YPMC yw darparu bwyd a diod am ddim. Bydd y gwasanaeth yn darparu ar gyfer pobl ifanc 13-25 oed, 5 diwrnod yr wythnos. Caiff y gwasanaeth ei redeg yn ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r gwasanaeth yn anelu at gwmpasu cymaint o Geredigion â phosibl, yn enwedig gan dargedu ardaloedd lle mae angen gwasanaethau i bobl ifanc. Yn dibynnu ar y tywydd, bydd y tîm yn creu gofod caffi awyr agored gan ddefnyddio’r fan fel canolbwynt, er hynny bydd yr amserlen yn cynnwys mannau dan do, a ddarperir gan Bartneriaid neu gan amwynderau lleol megis neuaddau pentref.

Bydd Feelz on Wheelz / Llyw a Byw yn cynnal Digwyddiadau Sadwrn i roi cymorth ymgynghori a chasglu gwybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gwerthuso a datblygu’r gwasanaeth yn barhaus.

Llyw a Byw photo - pobl ifanc o amgylch bwrdd gyda diodydd meddal a byrbrydau

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy