Gwybodaeth Amdanom Ni
Pobl Ifanc yn Arwain y Ffordd i Helpu Gwella Iechyd Meddwl a Llesiant Pobl Ifanc Ceredigion
Y Rhaglen a'n Cenhadaeth
Mae Dyfodol Ni yn cael ei arwain gan ieuenctid, sy’n golygu mai pobl ifanc sy’n gwneud yr holl benderfyniadau ynglŷn â sut mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu a’i redeg. Yn ystod Cyfnod Datblygu’r prosiect, cafodd ei arwain gan Bwyllgor Rheoli Pobl Ifanc (YPMC), a oedd yn cynnwys pobl ifanc 14-25 oed. Nhw oedd yr unig rai a wnaeth penderfyniadau am y prosiect, gan ddod i benderfyniad ar sut y byddai’r prosiect yn gwario ei arian, a chyfarwyddo Swyddogion Ymgysylltu i gynnal ymgynghoriadau ac ymchwil ar eu rhan.
Cynhaliodd y Bartneriaeth 37 o ddigwyddiadau ymgysylltu i ddod â phobl ifanc at ei gilydd a darparu cyfleoedd i’r Swyddogion Ymgysylltu ymgynghori â nhw. Roedd y digwyddiadau hyn yn amrywiol iawn, gan gynnwys pethau fel gwyliau cerdd, celf a chrefft, gweithdai theatr, chwaraeon a mwy, gyda rhai digwyddiadau mawr yn denu mwy na 100 o bobl ifanc. Treuliodd y Swyddogion Ymgysylltu amser yn cael sgyrsiau gyda phobl ifanc am y prosiect, eu huchelgeisiau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â beth oedd eu syniadau ar sut i wella iechyd meddwl pobl ifanc yng Ngheredigion. Dros y Cyfnod Datblygu, cyrhaeddodd y Swyddogion Ymgysylltu 1200 o bobl ifanc.
Canfuwyd bod tri phrif fater yr oedd pobl ifanc yng Ngheredigion am roi sylw iddyn nhw:
- Darparu safleoedd saff sy’n unigryw i bobl ifanc. Hwn oedd y cais unigol mwyaf gan bobl ifanc.
- Mynediad at wasanaethau, lleihau’r loteri cod post o’r gwasanaethau sydd ar gael, a sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau ar gael i bobl ifanc.
- Gwelwyd trafnidiaeth yn rhwystr i fynediad at wasanaethau.
Bu’r YPMC yn distyllu’r holl wybodaeth o’r ymgynghoriadau hyn, ac yn ystyried y syniadau a luniwyd gan y bobl ifanc. Fe benderfynon nhw ar y prosiectau canlynol:
Feelz on Wheelz / Llyw a Byw – caffi ieuenctid symudol a gwasanaeth cymorth a fyddai’n mynd i’r afael â phroblemau a rhoi mynediad at wasanaethau a thrafnidiaeth.
Safe Space to Speak / Safle Saff i Siarad’ (Sᶾ) (Sᶾ) grŵp lobïo ieuenctid, a fydd yn gweithredu fel y corff cynrychioliadol ar gyfer pobl ifanc yng Ngheredigion. Bydd aelodau o’r grŵp yn gweithio gyda Phartneriaid i wella gwasanaethau a bod yn gyfrwng ar gyfer newid.