Y Bartneriaeth

Sefydliadau partneriaeth yn cydweithio ar gyfer dyfodol gwell i bobl ifanc Ceredigion

Crewyd Addewid Partneriaeth Dyfodol Ni gan bobl ifanc er mwyn gosod cytundeb sefydliadau partner i gynnal ffocws ieuenctid gweithgareddau'r Bartneriaeth.

Mae sefydliadau’n cytuno i sicrhau’r canlynol:

 

Dan arweiniad ieuenctid.

Mae lleisiau pobl ifanc yn ganolog i’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig iddyn nhw. Gallant ddefnyddio’r gwasanaeth a ffefrir ganddyn nhw i feithrin annibyniaeth ac ymddiriedaeth mewn gwasanaethau a arweinir gan bobl ifanc, gan annog ymgysylltiad a brwdfrydedd yn yr hyn a wnawn. Mae gwasanaethau’n ymateb i anghenion pobl ifanc leol, tel y’u diffinnir ganddyn nhw, gan gynnig cymorth hygyrch lie bynnag y mae’n bosibl, gyda chymorth wedi’i dargedu i’r rhai sy’n cael eu hystyried eu bod mewn mwy o berygl, don anfantais neu ag anghenion uwch.

 

Cynwysoldeb, cydraddoldeb ac amrywiaeth

Wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion, mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u cynnwys yn eu hardal leol a gallant Igael mynediad i’r cymorth y maen nhw’n penderfynu sydd ei angen arnyn nhw. Ni ddylent deimlo’n ynysig nae yn wahanol oherwydd dewis iaith, ethnigrwydd, anabledd, rhywioldeb, cenedligrwydd, statws economaidd-gymdeithasol, anghenion addysgol arbennig, materion iechyd meddwl, crefydd neu unrhyw nodwedd arall. The local youth services should help to improve life circumstances for young people from all backgrounds by offering support to develop the skills, knowledge and networks they need to access and take advantage of opportunities.

 

Parch

Caiff anghenion a dymuniadau pobl ifanc lleol eu hystyried lawn cymaint ag unrhyw grwp cymunedol arall. Dylent deimlo eu bod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u parchu. Mae ieuenctid lleol yn cael eu hannog i gymryd rhan yn eu cymunedau a mwynhau cyfleoedd yn eu hardal heb boeni am tarn neu stereoteipio negyddol.

 

Ansawdd, diogelwch a llesiant

Darperir gwasanaethau mynediad agored o ansawdd da gan staff a hyfforddiant diogelu sydd a chysylltiadau a chymorth pellach os oes angen. Mae ein gwasanaethau yn helpu i gadw pobl ifanc yn ddiogel ac yn cefnogi eu hiechyd meddwl, emosiynol a chorfforol, yn gwella eu llesiant cymdeithasol ac economaidd. Mae’n sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at addysg, dysgu anffurfiol a gweithgareddau o’u dewis.

 

Grymuso

Mae gwasanaethau’n rhoi grym i bobl ifanc i symud ymlaen ac ymgysylltu a chyflogaeth, addysg a hyfforddiant, ac i gymryd rhan weithredol yn eu cymunedau lleol. Gwrandewir ar bobl ifanc a gallant wneud newidiadau cadarnhaol i’w cymunedau, a deall sut i ymgysylltu a gwneud dewisiadau.

 

Positifrwydd

Canolbwyntia gwasanaethau ar ddod o’r gorau allan o bob unigolyn, gan eu cynorthwyo i ddatblygu eu sgiliau a’u priodoleddau, yn hytrach na cheisio ‘trwsio problem’.