Creu Gwell Ceredigion i Bobl Ifanc
Pobl ifanc yn arwain y ffordd i helpu i wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc yng Ngheredigion.
Partneriaeth a arweinir gan bobl ifanc yn dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o wella iechyd meddwl pobl ifanc yng Ngheredigion.
Wedi’i ariannu gan Raglen Mind Our Future Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Dyfodol Ni wedi dod at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig, wedi’u cydgynhyrchu, gan roi pobl ifanc ar flaen y gad er mwyn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac ymyriadau i bobl ifanc yng Ngheredigion.

Caffi ieunenctid symudol yw Llyw a Byw lle gall pobl ifanc alw heibio i gael paned a chael mynediad at Weithwyr Cefnogi os maen nhw’n dymuno. Bydd y gwasanaeth yn darparu ar gyfer pobl ifanc 13-25 oed, 5 diwrnod yr wythnos.